AO3 News

Post Header

Published:
2018-10-27 09:46:53 UTC
Original:
On Archive of Our Own Mobile Apps
Tags:

Baner gan Ddiane gyda amlinellau o ŵr a menyw a sy’n siarad gyda swigod siarad, gyda’r logo OTW mewn un a’r geiriau ‘OTW Announcement’ yn y llall.

Caiff ap Andriod answyddogol “Archive of Our Own - AO3” (Archif Ein Hun) ei chyhoeddu i “Google Play” (Gŵgl Chwarae). Oherwydd mae’r cyhoeddiad hyn wedi rhoi’r pwnc yn ôl yn y sbotolau, hoffem ni cymryd y cyfle i rannu cyflwr presennol datblygiad yr ap AO3 swyddogol.

“A ydych chi wedi meddwl am greu ap?” yw un o’n holiadau fwyaf cyffredin, ond yn nhatblygiad apiau ffôn symudol, nid oes na unrhywbeth fel “un” ap. Mae rhaid i apiau cael eu hadeiladu am blatfformau ffôn symudol gwahanol - Android, iOS a “Windows Mobile” yw’r tair fwyaf poblogaidd - ac am y sawl fersiwn o’r platfformau rhain sydd dal yn cael eu defnyddio.

Cyn gallem dechrau datblygu ap a fydd yn gadael i chi gwneud fwy na pori ffanweithiau anghyfyngiedig, bydd rhaid i ni datblygu API gyhoeddus - sydd yn ar ein fforddfap, ond yn sawl gyhoeddiad i ffwrdd. Wedyn, bydd rhaid i ni adeiladu rhyngwynebau gwahanol ac ymatebol i ffônau symudol a llechi digidol. Beth sy’n edrych fel prosiect syml a bach yn esblygu’n gyflym mewn i rywbeth sydd angen llawer o adnoddau ymroddgar a phobl â sgilsetiau wahanol. Er rydym wedi dweud yn y gorffenol hoffem cyhoeddi ap AO3 ffôn symudol, nid yw’r adnoddau angenrheidiol ar gael ar y funud.

Mae’r codydd sy’n datblygu’r AO3 yn gwneud hi ar sail gwirfoddoladwy, ac yn rhoi cyn gymaint o amser a sy’n bosib i gefnogi’i thwf - ond mae’r amser hynny’n gyfyngiedig, ac wedi’i lenwi gan y gwaith sydd angen i cadw’r AO3 yn rhedeg yn esmwyth. Naillai mae’r tîm yn parhau i wella’r AO3, neu mae nhw’n datblygu ap - nid oes digon o wifoddolydd i gefnogi’r ddwy.

Nid yw’r datblygiad cychwynnol yr unig beth a fydd yn arddwys ar adnoddau. Bydd angen i ap cael ei chynhali a’i diweddaru’n barhaol i gwneud yn siwr bod hi dal i weithio wrth i fersiynau newydd o bob blatfform yn cael ei gyhoeddi - ac mae hynny ddim yn ymdrin â chynnwys nodweddau AO3 newydd a gwell! Ac oherwydd bydd ap angen cynhaliad tymor hir gan dîm ymroddiedig, nid yw hyn yn rhywbeth gallem arianu’n gyson â chyfranniadau.

Ond nid yw codio a phrofi adnoddau yn tasgu’r gwyneb o feth bydd angen i gefnogi ap! Bydd angen adnoddau o’r timau canlynol:

  • Bydd rhaid i’r pwyllgor Cefnogaeth cael ei staffio, ei hyfforddi, a’i chyfarparu i helpu â unrhyw problemau technegol a fu’n cael eu darganfod ar bob blatfform,
  • Bydd rhaid i’n tîm Dogfennaeth AO3 creu a diweddaru dogfennau cefnogaeth yn barhaol am yr ap, a
  • Fydd rhaid i’r tîm Cyfieithu cyfieithu a diweddaru dogfennaeth yn barhaol i wneud yr ap yn hygyrchol i siaradydd di-Saesneg.

Nid yn unig yw hyn yn fwy o adnoddau na sydd ar gael, bydd hi’n hefyd yn tynnu ei’n aelodau tîm i ffwrdd o weithio mewn gefnogaeth â’n fforddfap.

Mae gôl ein tîm yw i cadw’r AO3 ar gael ac yn hygyrchol i’r mwyafrif o bobl a sy’n bosib. Y ffordd orau i ni gwneud hyn yw i ganolbwyntio ein ymdrechion ar creu fersiwn ymatebol sengl o’r AO3 sy’n gweithio (ac yn gweithio’n dda!) ar gyn gymaint o ddyfesiau a sy’n bosib. Rydym yn dragwyddol wedi’i ymroddi i gwneud yn siwr bod hyn yn cynnwys dyfeisiau o bob siap a maint, a byddem yn parhau i ganolbwyntio’n hadnoddau ar wella ymatebaeth a defnyddoldeb y wefan i bawb. Mae hynny’n meddwl, yn cyflwr bresennol datblygaeth AO3, nid yw ap unigol yn bosib ar y funud.

I gau ar nodyn diogelwch, os mae wefan trydydd barti yn gofyn am eich gwybodaeth mewngofnodi AO3, llwybreiddiwch yn ofalus, a byddwch yn ymwybodol rydych yn darparu eich gwybodaeth at risg eich hyn. Er nid oes pryderau diogelwch ar hyn o bryd, gwnewch yn siwr rydych yn newid eich cyfrinair os credwch caiff eich cyfrif ei gyfaddawdu at unrhyw bryd.